Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Mehefin 2023
Amser:
10.15 -
11.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13612
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Sharon Bounds, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) |
Cofrestru (09.15-09.30)
Rhag-gyfarfod preifat – Anffurfiol (09:30 – 10:15)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Papur i’w nodi 1 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Gwaith craffu ariannol ar Fyrddau Iechyd – 24 Ebrill 2023
2.2 Papur i’w nodi 2 – Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2022-23: Ymateb Llywodraeth Cymru – Ebrill 2023
2.3 Papur i’w nodi 3 – Llythyr oddi wrth Peter Fox AS at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Bwyd (Cymru) – 4 Mai 2023
2.4 Papur i’w nodi 4 – Adroddiad Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru – 5 Mai 2023
2.5 Papur i’w nodi 5 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - 5 Mai 2023
2.6 Papur i’w nodi 6 – Llythyr oddi wrth Jonathan Athow, CThEF: Gweinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) – 9 Mai 2023
2.7 Papur i’w nodi 7 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Amaethyddiaeth (Cymru) – 9 Mai
2.8 Papur i’w nodi 8 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Chwyddiant yn yr amcangyfrifon o gostau sy'n cyd-fynd â Biliau'r dyfodol – 12 Mai 2023
2.9 Papur i’w nodi 9 – Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Y DU/Iwerddon/CE: Cytundeb Ariannu ar Raglen PEACE PLUS 2021-2027 – 12 Mai 2023
2.10Papur i’w nodi 10 – Llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol – 17 Mai 2023
2.11Papur i’w nodi 11 – Bil Bwyd (Cymru): Ymateb gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil – 19 Mai 2023
2.12Papur i’w nodi 12 – Llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Bil Bwyd (Cymru) – 31 Mai 2023
2.13Papur i’w nodi 13 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) – Gwelliant Cyfnod 2 y Llywodraeth – 24 Mai 2023
2.14Papur i’w nodi 14 – Llythyr oddi wrth Gomisiwn y Senedd: Diweddariad mewn perthynas ag argymhelliad adroddiad y Pwyllgor – 24 Mai 2023
2.15Papur i’w nodi 15 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) – 31 Mai 2023
2.16Papur i’w nodi 16 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 13 Mehefin 2023
3 Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth a Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn i’r Gweinidog Addysg ddarparu nodyn ar:
· orwariant ar gyllideb ysgolion ac a ellir cario unrhyw ddiffyg ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniwyd y cynnig
5 Cyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig.
7 Archwilio Cymru - Hysbysiad o derfynau amser archwilio
7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar yr hysbysiad o derfynau amser archwilio a chytunodd i ysgrifennu at Archwilio Cymru.
8 Ymgynghori â Phwyllgorau’r Senedd ar y dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Gyllideb Ddrafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyrau a gyflwynwyd gan gadeiryddion Pwyllgorau a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
9 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft
9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno.